P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan UNISON Neath Port Talbot, ar ôl casglu 262 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Mae cangen Castell-nedd Port Talbot o
UNSAIN yn galw ar i Lywodraeth Cymru wrthdroi’r penderfyniad
i dorri cyllid cymorth addysgol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad
Lleiafrifoedd Ethnig (MEAS) a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr
(TES).
Yn y bôn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi tynnu
cyllid ar gyfer y grwpiau hyn yn ôl o dan y grant gwella
addysg. Mae ymchwil yn dangos mai plant Roma a Theithwyr sydd
â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp
ethnig yng Nghymru, a diben y grant gwella addysg yw cefnogi eu
dysgu a gwella cyrhaeddiad.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae canran o’r disgyblion yn
ein hysgolion yn deithwyr ac yn grwpiau ethnig lleiafrifol
sy’n dibynnu ar yr arian hwn; mae Margam a Llansawel yn
enghreifftiau o hyn. Mae gan y cyngor dystiolaeth bod gweithwyr
cymorth yn darparu gwasanaeth gwych o ran ymgysylltu
â’r dysgwyr ‘anodd eu cyrraedd’ hyn. Rydym
am i bob person ifanc allu cyrraedd ei botensial ac mae gweithwyr
cymorth yn gallu hyrwyddo anghenion pob dysgwr, yn enwedig y rhai
sy’n agored i niwed neu sydd o dan anfantais. Maent yn
meithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd, ysgolion a’r
cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Bydd y gostyngiad yn eu cyllid
yn niweidiol ac mae torri swyddi eisoes yn cael ei drafod
â’r undebau llafur. Bydd angen talu unrhyw gostau
diswyddo o gyllideb sydd eisoes dan bwysau.
Rydym yn annog i Lywodraeth Cymru ymgynghori ag UNSAIN ac awdurdodau lleol. Rhaid i Lywodraeth Cymru gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i sicrhau bod arian yn cael ei ddyrannu i’r rhai sydd mewn angen.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Aberafan
· Gorllewin De Cymru